Ffarmacoeconomeg – Cwrs byr 2 ddiwrnod yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Prifysgol Bangor

EBRILL 12-13, 2018
Cefndir
Mae gwaith y GIG yn dyrannu adnoddau cyfyngedig a phrin i gyllido meddyginiaethau yn gofyn am wneud penderfyniadau a gefnogir gan dystiolaeth gadarn. Mae’r cwrs hwn yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o werthuso ffarmaeconomaidd a dulliau asesu technoleg iechyd i aelodau o weithlu’r GIG neu’r sawl sydd â diddordeb mewn sut mae’r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud.
At bwy y mae’r cwrs wedi’i anelu?
Fferyllwyr, clinigwyr, gweithwyr proffesiynol mewn meysydd iechyd cysylltiedig, myfyrwyr ôl-radd a phobl eraill a chanddynt ddiddordeb mewn ffarmaeconomeg ac sydd eisiau dysgu am ddulliau asesu technoleg iechyd a sut i’w defnyddio. Does dim angen gwybod unrhyw beth am economeg i ddod ar y cwrs.
Yn edrych ar:
- Meddyginiaeth a’r GIG (gan gynnwys meddyginiaethau canser)
- Cyflwyniad i Asesu Technoleg Iechyd
- Canlyniadau cleifion
- Synthesis tystiolaeth
- Gwerthuso economaidd ar sail treial
- Costau a defnydd adnoddau
- Modelu economaidd iechyd
- Gwerthuso beirniadol
Cyfarwyddwr y Cwrs: Yr Athro Dyfrig Hughes, gyda chefnogaeth gan siaradwyr gwadd
Pris: £750 (Yn cynnwys prydau bwyd a llety yn Y Ganolfan Rheolaeth, Bangor)
Manylion pellach: http://cheme.bangor.ac.uk/digwyddiadau/ffarmacoeconomeg-cwrs-byr-34917